Ffoniwch 111
22
Meh 2021
Cwestiynau Cyffredin
C. Beth yw 111 a pham ydych chi'n ei gyflwyno yn awr?
Bydd GIG 111 Cymru yn cyfuno dau wasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd gan wahanol rannau o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) yng Nghymru - sef NHS Direct a'r gwasanaeth Meddygon Teulu Tu Allan i Oriau pan fydd eich meddygfa ar gau. Ers nifer o flynyddoedd bu’n fwriad gan GIG Cymru i gyflwyno rhif tri digid syml, cofiadwy, rhad ac am ddim. Mae pobl weithiau'n ei chael hi'n anodd gwybod pa wasanaeth i gysylltu ag ef, a phryd. Bydd cyflwyno rhif rhad ac am ddim yn ei gwneud hi'n haws nid yn unig i gael mynediad at ofal brys, ond hefyd i gael gwybodaeth a chyngor iechyd os nad yw cleifion yn siŵr beth i'w wneud. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau ambiwlans brys yn cael eu defnyddio ar gyfer y cleifion hynny sydd mewn mwyaf o angen oherwydd argyfwng sy'n peryglu bywyd yn unig.
C. Pam ffonio 111? Pa help alla i ei gael? Ydw i'n ffonio'r rhif hwn yn lle fy meddyg teulu neu 999?
Yn ystod yr wythnos waith (8.00am-6.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener), mae eich meddygfa ar gael yn y ffordd arferol a hwnnw fydd yn parhau i fod y prif wasanaeth y mae cleifion yn ei ddefnyddio fel trefn arferol. Nid oes unrhyw newid o ran sut a phryd y byddwch chi'n gallu cysylltu gyda’ch meddyg teulu yn ystod yr oriau hynny. Ond nid yw rhai pobl yn sylweddoli, y tu allan i'r oriau hyn ac ar wyliau banc, fod meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ar gael bob amser i ymateb i faterion brys i gleifion na allant aros nes bod eu practis meddyg teulu yn ailagor. Trwy gyfuno NHS Direct Cymru â’r gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau, bydd GIG 111 Cymru yn gallu cynnig ystod o wybodaeth iechyd, cyngor a thriniaeth frys pan fydd eich cyflwr neu’r hyn sydd angen sylw yn fater brys ond nad yw'n peryglu bywyd. Cofiwch, dim ond mewn argyfwng sy'n peryglu bywyd y dylid defnyddio 999. Felly, os nad yw'n argyfwng, defnyddiwch 111.
C. Gyda phwy y byddaf yn siarad? A fyddant yn gwybod am beth y maent yn siarad neu a fyddant yn dibynnu ar feddalwedd cyfrifiadurol yn unig?
Os byddwch chi'n ffonio 111, byddwch chi'n siarad i ddechrau â rhywun sydd wedi ei hyfforddi i gymryd galwadau. Mae pob un o'n derbynwyr galwadau yn derbyn hyfforddiant ac addysg helaeth. Byddant yn gofyn cyfres o gwestiynau byr ichi ac yn cymryd manylion sylfaenol (gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni ac ati) fel y gall gweithwyr proffesiynol gofal iechyd fel meddygon a nyrsys ganolbwyntio ar wneud asesiad clinigol yn unig. Bydd hyn yn ein helpu i flaenoriaethu galwadau brys fel bod y bobl salaf yn cael eu trin gyntaf.
C. A fyddaf yn cael yr help sydd ei angen arnaf ar unwaith neu a fyddaf yn cael galwad yn ôl / apwyntiad meddyg / ambiwlans?
Yn dibynnu ar frys a difrifoldeb eich galwad, gallwch siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, a allai fod yn fferyllydd, nyrs, parafeddyg neu feddyg. Weithiau, bydd angen ichi siarad â mwy nag un person i gael y driniaeth gywir, ond byddwn yn ceisio cyfyngu hynny gymaint â phosibl er mwyn ichi allu siarad â'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir y tro cyntaf. Os yw'ch angen yn un brys ac yn gofyn am weld meddyg teulu y tu allan i oriau, gofynnir i chi fynd i ganolfan gofal sylfaenol yn un o'n safleoedd ysbytai, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd ein nyrsys neu fferyllwyr medrus iawn yn gallu delio â llawer o achosion yn achos y rhan fwyaf o gyflyrau. Mae’r rhai sy’n derbyn galwadau wedi'u hyfforddi i adnabod pan fydd bygythiad i fywyd; os byddwch yn deialu 111 a bod angen ambiwlans arnoch, cewch eich rhoi drwodd i'r gwasanaeth ambiwlans brys.
C. Sut mae hyn yn well i gleifion ac yn well i'r GIG?
Y prif welliant i gleifion yw y bydd gennych am y tro cyntaf fynediad at ystod o wasanaethau trwy ddeialu un rhif rhad ac am ddim a fydd yn ei gwneud yn haws ichi gael y gwasanaeth cywir. Bydd hyn hefyd yn helpu i gadw ein hadrannau brys (Adran Damweiniau ac Achosion Brys) a gwasanaeth 999 i'r rhai sydd eu gwir angen. Y budd arall yw bod cleifion weithiau'n meddwl mai Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yw'r unig le sydd ar gael, yn enwedig gyda'r nos neu ar benwythnosau. Bydd ffonio 111 yn helpu i gyfeirio cleifion i'r llefydd iawn.
C. Rwy'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ond bob tro rwy'n ceisio ffonio'r rhif 111 o'm ffôn symudol, dywedir wrthyf nad yw'r gwasanaeth ar gael yn fy ardal. Pam hynny?
Os yw'r nodwedd ‘Wi-Fi Calling’ wedi'i galluogi ar eich ffôn symudol, gallai fod yn ymyrryd â'ch lleoliad wrth ichi geisio ffonio'r gwasanaeth 111. I sicrhau y gallwn ganfod eich lleoliad cywir, byddwch angen diffodd y nodwedd hon cyn deialu. I’w ddiffodd, bydd angen ichi newid y gosodiadau yn eich ffôn. Mae'r broses ychydig yn wahanol ar gyfer pob ffôn, felly cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth i gael help i wneud hyn.
C. A fyddaf yn gallu siarad â rhywun yn Gymraeg os ydw i eisiau?
Byddwch, mae'r neges gyntaf y byddwch chi'n ei chlywed wrth ddeialu 111 yn gofyn ichi ddewis a ydych chi am barhau â'r alwad yn Saesneg neu yn Gymraeg. Mae GIG 111 Cymru yn cyflogi nifer o siaradwyr Cymraeg, a byddwn yn gallu sgwrsio yn Gymraeg gyda chi os dymunwch.
C. Rwy'n byw y tu allan i Gymru ond efallai y bydd angen imi gysylltu â'r gwasanaeth ar ran perthynas sy'n byw yn ardal BIPBC. Beth sydd angen imi ei wneud?
Os byddwch yn ffonio 111 o'r tu allan i Gymru, byddwch yn cael ei gyfeirio at y gwasanaeth 111 yn eich lleoliad. Nid yw'n bosibl cysylltu galwadau GIG 111 a wneir y tu allan i Gymru â system GIG 111 Cymru. Os ydych chi'n galw o'r tu allan i Gymru ar ran perthynas sydd angen cymorth meddygol brys y tu allan i oriau, galwch eu meddyg teulu i gael mwy o wybodaeth a dilynwch y cyfarwyddiadau ar neges y peiriant ateb.
C. Rwy'n byw yn ardal BIPBC ond yn gweithio yn rhywle arall. Beth fydd yn digwydd pe bawn i eisiau ffonio 111 tra yn y gwaith?
Mae GIG 111 Cymru bellach yn gweithredu ar draws pob rhan o Gymru, ar wahân i ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Os oes angen cymorth meddygol brys y tu allan i oriau arnoch ond eich bod yn gweithio y tu allan i ardal BIPBC, ffoniwch 111 a byddwch yn cael eich cysylltu â gwasanaeth GIG 111 Cymru fel arfer.
Os ydych chi'n gweithio yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg, neu y tu allan i Gymru, ac angen cymorth meddygol brys y tu allan oriau, galwch eich meddyg teulu i gael mwy o wybodaeth a dilynwch y cyfarwyddiadau ar neges y peiriant ateb.
C. Beth fydd yn digwydd os nad wyf yn siarad Saesneg na Chymraeg?
Os nad ydych yn siarad Saesneg, byddwn yn dal i allu eich helpu chi. Rydym yn defnyddio gwasanaeth o'r enw Language Line ac mae hyn yn ein galluogi i gael galwad ffôn tair ffordd gyda chyfieithydd ar y pryd fel y gallwn barhau i ddarparu'r help sydd ei angen arnoch.
C. Beth fydd yn digwydd os byddaf yn fyddar?
Mae'r gwasanaeth InterpreterNow <;, sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos, rhwng 8am a hanner nos, ar gael i ddefnyddwyr byddar (a rhai sy’n gallu clywed) sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain [BSL] i gyfathrebu â phobl sy'n clywed trwy gyfieithydd BSL ar-lein. Gellir cael mynediad at y gwasanaeth InterpreterNow trwy ddefnyddio cyfrifiadur, neu trwy ap InterpreterNow ar eich ffôn clyfar neu dabled cyfrifiadurol. Unwaith y byddwch wedi cysylltu â'r gwasanaeth InterpreterNow, bydd y cyfieithydd yn cysylltu â ni dros y ffôn a throsglwyddo eich sgwrs i aelod o'n tîm, ee Ymgynghorydd Nyrsio neu Gynghorydd Iechyd, yn dibynnu ar beth yw'r broblem. Gofynnir cyfres o gwestiynau i chi i asesu'ch anghenion, ac yna cewch y cyngor gofal iechyd priodol neu eich cyfeirio at y gwasanaeth lleol a all eich helpu orau.
C. O ble mae'r arian ar gyfer hyn yn dod?
Mae gwefan GIG 111 Cymru - 111.wales.nhs.uk – yn darparu gwybodaeth am wasanaethau lleol, yn ogystal â gwybodaeth gynhwysfawr am faterion iechyd. Mae gwirwyr symptomau hefyd ar gael ar gyfer ystod o broblemau iechyd cyffredin. Bydd ymwelwyr â safle nhsdirect.wales.nhs.uk yn cael eu hailgyfeirio i safle newydd GIG 111 Cymru.
C. Ble mae'r ganolfan alwadau? Pam rydyn ni'n ffonio canolfan alwadau 111 yn hytrach na'r gwasanaethau y tu allan i oriau lleol lle maen nhw'n deall y gymuned leol a gwasanaethau lleol?
Mae gan GIG 111 Cymru ganolfannau galw ledled y wlad ac mae llawer o staff newydd wedi'u recriwtio i gefnogi'r gwasanaeth yng Ngogledd Cymru. Mae pob canolfan yn defnyddio rhestr gynhwysfawr o wasanaethau i roi gofal a chyngor i gleifion o’r radd flaenaf, gyda'r holl staff yn cymryd rhan mewn rhaglen barhaus a chynhwysfawr o hyfforddiant a datblygiad. Bydd ein gwasanaeth Meddygon y Tu Allan i Oriau yn parhau i ddarparu gofal lleol pan fydd angen.
C. Pwy sy'n rhedeg y llinell ffôn 111?
Mae GIG 111 Cymru yn cael ei redeg gan Wasanaeth Ymddiriedolaeth GIG Ambiwlans Cymru.
C. Rwyf wedi clywed bod 111 yn arwain at gynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau at wasanaethau ambiwlans. A yw hyn yn wir?
Mae gan GIG 111 Cymru eisoes brofiad sylweddol o ddarparu gwasanaethau 111 ledled Cymru, heb alw cynyddol am wasanaethau ambiwlans.
C. At bwy y byddaf yn cwyno os oes gennyf bryder ynghylch 111 a’m gofal y tu allan i oriau?
Os oes gennych bryder am y gwasanaeth a gewch gan GIG 111 Cymru, cysylltwch Gwasanaeth Ambiwlans Ymddiriedolaeth GIG Cymru - Putting Things Right team neu ffoniwch 0300 321 321 1.
Os oes gennych bryder am y gwasanaeth a gewch gan Wasanaeth Meddygon Teulu Tu Allan i Oriau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chysylltu Cleifion (Patient Advice and Liaison Service) neu ffoniwch 03000 851 234.
Mae’r Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) yn bodoli i gynrychioli a diogelu buddiannau'r cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau’r GIG trwy fonitro ansawdd y gofal, a lle bo hynny'n briodol ymateb i geisio datrys problemau a gweithredu fel ffynhonnell wybodaeth ar gyfer pobl leol. Maent ar gael i gynghori a helpu unrhyw un sydd ag awgrym neu bryder ynghylch y gwasanaeth iechyd.
Mwy o wybodaeth am y Cyngor Iechyd Cymunedol yng Ngogledd Cymru